Canolfan Addysg yn yr Amgylchedd Adeiledig
Beth yw'r Ganolfan Addysg yn yr Amgylchedd Adeiledig?
Y Ganolfan Addysg yn yr Amgylchedd Adeiledig (CEBE) yw un o'r 24 o Ganolfannau
Pwnc sy'n cynnwys y Rhwydwaith Gefnogaeth i Ddysgu ac Addysgu (LTSN), a noddir
gan bedwar sefydliad cyllido Addysg Uwch y DG. Sefydlwyd y rhwydwaith ym mis
Ionawr 2000 i hybu arferion dysgu, addysgu ac asesu o ansawdd uchel mewn Addysg
Uwch yn y DG. Prif amcan CEBE yw rhoi cefnogaeth sy'n seiliedig ar ddisgyblaethau
dysgu ac addysgu yng nghymunedau pwnc yr amgylchedd adeiledig, sef Pensaernïaeth,
Tirlunio, Cynllunio Trefol, Adeiladu a Thirfesur.
Amcanion y Ganolfan
Byddwn yn rhoi cefnogaeth i academyddion yr amgylchedd adeiledig i wella
ansawdd ac effeithiolrwydd y dysgu a'r addysgu. Bydd nodi a dosbarthu gwybodaeth
ar arferion addysgol da yn rhan bwysig o'r rôl hon, ynghyd ag annog deialog
ar arferion addysgu arloesol. Bydd y Ganolfan hefyd yn darparu cyfleoedd ar
gyfer datblygu staff a bydd yn adolygu ac yn annog ymchwil sy'n seiliedig ar
ddisgyblaeth ar ddysgu ac addysgu.
Sut gall CEBE eich helpu chi?
Os ydych yn addysgu yn unrhyw un o feysydd pwnc yr amgylchedd adeiledig,
gall y Ganolfan gynnig y canlynol i chi:
- Deunyddiau adnoddau a gwybodaeth gyfredol ar ddatblygiadau ym maes
addysg amgylchedd adeiledig.
- Cyswllt â chydweithwyr eraill sydd â diddordebau tebyg trwy rwydweithio,
fforymau trafod a grwpiau ffocws.
- Cofrestrau o arbenigwyr ac arbenigrwydd nodedig.
- Y dulliau diweddaraf o ddysgu ac addysgu (yn cynnwys defnyddio Cyfrifiaduron
a Thechnoleg Gwybodaeth).
- Cyngor i'ch galluogi i gynllunio a datblygu syniadau ar gyfer dysgu,
addysgu ac asesu.
- Ymweliadau, arddangosfeydd a gweithdai i helpu datblygiad staff.
- Cylchlythyrau rheolaidd a chylchgrawn y Ganolfan.
|